bgw. Actau 13:14—14:20

2 Timothy 3

Annuwioldeb yn y dyddiau olaf

1Ond dw i eisiau i ti ddeall hyn: Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. 2Bydd pobl yn byw i'w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw'n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. 3Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. 4Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw'u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw. 5Mae nhw'n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw'n gwrthod y nerth sy'n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Paid cael dim i'w wneud â phobl felly.

6Nhw ydy'r math o bobl sy'n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy'n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae'r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw'n cael y gorau arnyn nhw. 7Gwragedd sy'n cael eu ‛dysgu‛ drwy'r adeg, ond yn methu'n lân a chael gafael yn y gwir. 8Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres
3:8 Jannes a Jambres: Dydy'r enwau yma ddim yn yr Hen Destament. Ond yn ôl ysgrifau Iddewig eraill dyma enwau'r ddau ddewin oedd yn gwrthwynebu Moses pan oedd am arwain pobl Dduw allan o'r Aifft – gw. Exodus 7:11,22.
yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw – dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu.
9Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres.

Gorchymyn Paul i Timotheus

10Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati. 11Rwyt ti'n gwybod am yr erledigaeth a'r cwbl dw i wedi ei ddioddef – beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. b Ond mae'r Arglwydd wedi fy achub i o'r cwbl! 12Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. 13Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi eu twyllo eu hunain yr un pryd. 14Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi ei ddysgu. Rwyt ti'n gwybod yn iawn mai dyna ydy'r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. 15Roeddet ti'n gyfarwydd â'r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Trwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. 16Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw'n dysgu beth sy'n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni'n ei wneud o'i le, a'n dysgu ni i fyw yn iawn. 17Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.

Copyright information for CYM